Gall defnyddwyr Practis a defnyddwyr personol greu neu wneud cais am gyfrif (yn rhad ac am ddim) trwy glicio isod.
Gall defnyddwyr Practis a defnyddwyr personol greu neu wneud cais am gyfrif (yn rhad ac am ddim) trwy glicio isod.
Rydym yn darparu codau sydd wedi’u negodi gan gyflenwyr er mwyn i chi allu arbed arian ar yr hyn y byddwch yn ei brynu – o nwyddau meddygol i nwyddau ysgrifennu.
Byddwch yn parhau i’w prynu yn uniongyrchol gan y cyflenwr, yn yr un ffordd ag y byddwch yn ei wneud nawr, ond byddwch yn mewnbynnu côd wrth dalu ar-lein neu’n rhoi gwybod am y côd dros y ffôn er mwyn arbed arian. A dyna ni: mwynhewch ostyngiad gennym ni!
DS: Bydd pob pryniant yn cael ei wneud yn uniongyrchol rhyngoch chi a’r cyflenwr. Dim ond darparu’r codau Gofal Sylfaenol penodol a drefnwyd ar eich rhan y bydd GPWales yn ei wneud, ac nid yw hyn yn rhan o’r broses brynu o gwbl.
Rydym wrthi’n chwilio am gyflenwyr sy’n fodlon cynnig gostyngiadau ar gyfer defnyddwyr personol yn ogystal â phractisau. Rydym yn chwilio am ostyngiadau o ddydd i ddydd, fel arian oddi ar eich pizza neu eich gwyliau, yn ogystal â gostyngiadau ar offer meddygol!
Hoffem wybod am unrhyw gyflenwyr i gysylltu â hwy nawr – ar beth hoffech arbed arian?
Ers ein lansiad ar 9 Ionawr 2017, mae mwy o gyflenwyr yn ymuno â ni bob dydd. Mae’r cyflenwyr hyn eisiau cyrraedd y farchnad meddygon teulu, a hynny yn haws ac mewn modd rhatach. Bydd gan bob cyflenwr delerau gwahanol – bydd rhai yn cynnig gostyngiadau ar bopeth, a bydd eraill yn cynnig gostyngiadau ar eitemau penodol.
Mae modd dod o hyd i’r holl wybodaeth am bob cyflenwr ar ei dudalen drwy fynd ar y dudalen ‘Gostyngiadau’ ar y ddewislen unwaith y byddwch wedi’ch mewngofnodi.
Nid ydym yn meddwl bod unrhyw anfanteision. Mae pawb yn ennill. Y cwbl rydym yn ei ofyn yw’ch bod yn rhoi adborth i ni ar y cyflenwr, gan esbonio sut y gallai wella.
Gallwn gynnig ein gwasanaethau Rheoli Locwm i chi yn rhad ac am ddim, cynnal y safle a pharhau i ymchwilio i nodweddion newydd diolch i gyllid gan gyflenwyr. Os nad ydych yn dymuno defnyddio cyflenwr sydd ar ein rhestr ar hyn o bryd, ar gyfer unrhyw beth a brynwch, gadewch i ni wybod amdanynt fel y gallwn gysylltu â hwy!